We use cookies to improve your experience, some are essential for the operation of this site.

Prisiau

Mae modd inni ddarparu copïau ffotograffig neu gopïau digidol o’r lluniau sy wedi’u cynnwys ar y wefan yma. Mae rhestr o brisiau ar gyfer copïau isod. Os hoffech chi gyhoeddi neu arddangos y lluniau yma yn gyhoeddus, byddwn ni’n codi tâl atgynhyrchu.

Nodwch, mae lluniau gwreiddiol yn amrywio o ran maint a siâp ac efallai fydd copïau ddim yn ffitio’r maint rydych chi’i eisiau i’r dim.

Rhestr o Brisiau

Main (modfeddi) Copi Digidol
6 x 4 (A6) £2.30 £5.50
7 x 5 (A5) £3.15 £5.50
10 x 8 (A4) £4.25 £5.50
16 x 8 (A3) £6.30 £5.50

Mae tâl postio a lapio yn ychwanegol. Prisau fel a ganlyn:

A4 (a llai) - £1.50 (£2.00 ar gyfer 4 copi A4 neu ragor)
A3 - £2.00
CD - £1.50

Yn amlach na pheidio, bydd lluniau’n barod i’w anfon o fewn 7 diwrnod o dderbyn eich archeb.

Prisiau Atgynhyrchu

Copïau o ffotograffau a deunyddiau eraill wedi’u darparu gan Gasgliad Hanes Lleol Gwasanaeth y Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf ar yr amod bod dim copïau i’w hatgynhyrchu heb gael caniatâd ysgrifenedig gan y gwasanaeth yn y lle cyntaf. Yn amlach na pheidio, byddwn ni’n codi tâl ’hawl i atgynhyrchu’ ar ben pris ar gyfer y copïau. Lle bod hawlfraint yn bodoli ac nid y Llyfrgell sy’n berchen arno, mae gofyn bod yr awdur a’r cyhoeddwr yn cael caniatâd y sawl sy’n berchen ar yr hawlfraint cyn atgynhyrchu unrhyw ddeunydd.

Os hoffech chi atgynhyrchu un o’n lluniau ni, cysylltwch â:

Llyfrgellydd Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgell Aberdâr, Green Street, Aberdâr, CF44 7AG.

Ffôn: 01685 880054 Ebost: Menna.James@rctcbc.gov.uk

At ddefnydd sy heb fod yn fasnachol (gwledydd Prydain)
Deunyddiau sy ddim yn cael eu cynhyrchu er mwyn gwneud elw gan gynnwys cofnodolion, thesis prifysgol a choleg ac ati. Dim tâl ac eithrio costau, rhaid cynnwys nodyn cydnabyddiaeth
At ddefnydd masnachol (gwledydd Prydain) Du a Gwyn Lliw
Llyfr/papur newydd/cyfnodolion £28.65 £51.50
Siacedi llwch/clawr £51.50 £114.50
Marchnata/gwerthu/cyhoeddusrwydd £51.50 £114.50
Cardiau post/anrhegion/cardiau cyfarch £34.35 £62.95
Pecynnu, e.e. cloriau recordiau, tiniau bisgedi £34.35 £64.40
At ddefnydd y Cyfryngau (gwledydd Prydain)
Sleidiau, stribedi ffilm, microfiche, y ffrâm £20 £40
Arddangosfeydd £20 £40
Cyflwyniadau fideo £20 £40
Teledu £30 £30
i) Hysbysebion digidol ac ailddarllediad £15 £15

*Bydd y cyhoeddiad yn cynnwys cydnabyddiaeth, sef, ’Gyda chaniatâd Gwasanaeth y Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf’.

*Mae prisiau gostyngol ar gael ar gyfer argraffiadau ar raddfa fechan, cyhoeddiadau ar gyfer elusennau a bras ddefnyddio (hynny yw defnyddio ar raddfa fawr).

Trefnau Archebu a Thalu

Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu derbyn archebion gyda cherdyn credyd ar-lein ar hyn o bryd. Mae modd ichi brynu copïau o ffotograffau drwy’r post gan Wasanaeth y Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Dim ond ar ôl derbyn taliad, byddwn ni’n prosesu archebion. Tynnwch eich sieciau ac archebion post yn enw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae modd i chi archebu copiau drwy lawr lwytho ffurflen gais fersiwn Word neu fersiwn PDF ac anfon copi cwpledig ynghyd â thâl at:

Llyfrgellydd Gwasanaethau Gwybodaeth,
Llyfrgell Aberdâr,
Green Street,
Aberdâr,
CF44 7AG