We use cookies to improve your experience, some are essential for the operation of this site.

Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Taf

Croeso i Archif Lluniau Digidol Gwasanaeth y Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Yma, fe gewch chi hyd at 20,000 o luniau digidol sy’n rhan o’n casgliadau hanes lleol. Mae’r lluniau yma’n cynnwys lluniau o bobl wrth eu gwaith neu’n hamddena; adeiladau; mangreoedd ac achlysuron. Mae’r lluniau yma o gymorth i ddangos gwahanol agweddau o fywyd yn y Fwrdeistref Sirol gan ddechrau o 1880 hyd at heddiw.

Mae hawl ichi godi lluniau o’r wefan yma at ddefnydd preifat yn unig. Os hoffech chi gael copïau mwy eglur ac o safon gwell, neu os hoffech chi ddefnyddio’r lluniau yma i ddibenion masnachol neu ar gyfer y cyhoedd, galwch heibio i’r dudalen Prisiau neu gysylltu â ni yn uniongyrchol, gan ddefnyddio’r ddolen Manylion Cyswllt.

Rydyn ni’n datblygu’r wefan yma o hyd ac o hyd a byddwn ni’n ychwanegu lluniau newydd yn rheolaidd wrth i’n rhaglen ddigidol symud yn ei blaen a bydd gwasanaeth y llyfrgelloedd yn casglu rhagor o luniau.

Croeso ichi wilio drwy’r wefan neu chwilio am bynciau sydd o ddiddordeb mwy penodol i chi gan ddefnyddio’r botymau chwilio sydd ar y chwith; mae’r dudalen Gymorth yn cynnig arweiniad ynglŷn â sut i’w defnyddio. Os oes gyda chi unrhyw sylwadau neu o beidio â dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni.

The English language version of this site can be found here: Saesneg