We use cookies to improve your experience, some are essential for the operation of this site.

Cymorth

Chwilio am Luniau

Mae 6 ffordd i chwilio am luniau ar y wefan yma, sef:

  • Chwilio'n Gyflym
  • Chwilio Pynciau
  • Chwilio Mynegai
  • Chwilio Uwch
  • Dangos y cyfan

Chwilio’n Gyflym

O deipio gair neu ymadrodd yn y blwch chwilio a chlicio ar y botwm Chwilio bydd modd chwilio am y gair neu’r ymadrodd hwnnw o blith yr holl wybodaeth hynny sy’n gysylltiedig â phob cofnod sydd o’w gael yn y basdata.

Cardiau gwyllt

Mae modd defnyddio’r garden wyllt (%) yn lle llythrennau anhysbys neu i ymestyn y chwilio, er enghraifft bydd:

  • print% yn dod o hyd i 'print', 'prints', 'printer', ac ati.

Boolean Operators

Pan ydych chi’n chwilio am un gair neu ragor neu os dydych chi ddim eisiau cynnwys rhai geiriau arbennig wrth chwilio, mae modd ichi ddefnyddio boolean operators - AND, OR a NOT. Defnyddiwch y rhain i bennu p’un ai bod y canlyniadau’n cynnwys y termau i gyd, unrhyw dermau, neu dim o’r termau a nodwyd, er enghraifft:

  • african AND card - rhaid bod y canlyniadau i gyd yn cynnwys 'africa' a 'card'.
  • african OR card - rhaid bod y canlyniadau i gyd yn cynnwys naill ai 'africa' neu 'card'.
  • africa NOT card - rhaid bod y canlyniadau i gyd yn cynnwys 'africa’ a dim 'card'.

Chwilio Pynciau

Mae gan y cofnodion i gyd o leiaf un allweddair neu ragor sy’n perthyn iddo ac mae allweddeiriau’r pynciau i gyd yn disgrifio priodoledd neu nodwedd arbennig sy’n perthyn i’r llun. Mae’r allweddeiriau yma’n ymddangos mewn cyfeirlyfr hierarchaidd o blygellau ac is-blygellau, gyda phob lefel dilynol yn mynd yn fwyfwy penodol. Gallwch chi chwilio’r allweddair hierarchaidd yma gan ddefnyddio’r dudalen Chwilio Pynciau:

  • Cliciwch ar blygell pwnc/allweddair i ddangos y pynciau a’r allweddeiriau sydd o fewn y blygell honno.
  • Cliciwch ar enw pwnc/allweddair i ddangos yr is-allweddeiriau cysylltiedig i gyd.

Chwilio Mynegai

Dyma restr o’r allweddeiriau gwaelod yn ôl trefn yr wyddor, sy’n eich caniatau chi i chwilio pwnc yn uniongyrchol heb orfod chwilio’r rhestr hierarchaidd ar dudalen Chwilio Pwnc. Defnyddiwch y llythrennau ar y chwith i restru allweddeiriau pynciau gan ddechrau gyda llythyren benodol. Unwaith eich bod chi wedi dod o hyd i’r eitem sydd o ddiddordeb i chi, cliciwch ar y ddolen gyswllt i ddod o hyd i’r lluniau sy’n perthyn.

Chwilio Uwch

Os ydych chi’n gwybod rhai manylion ynglŷn â’r llun rydych chi’i eisiau yn barod, gallwch chi ddod o hyd i ganlyniadau mwy uniongyrchol gan ddefnyddio’r adnodd chwilio uwch. Nodwch gymaint o fanylion ag y bo modd mewn un blwch neu ragor. Bydd nodi cymaint o fanylion ag sy’n bosibl yn rhoi canlyniadau chwilio mwy llwyddiannus.

Nodwch, os ydych chi’n nodi manylion mewn mwy nag un blwch, bydd yr adnodd chwilio dim ond yn dod o hyd i’r eitemau hynny sy’n cynnwys yr wybodaeth i gyd a roddwyd.

Dangos y Cyfan

Bydd dewis Dangos y Cyfan yn dod o hyd i’r lluniau yn y bas data i gyd.

Tudalen Dewisiadau

Mae pob llun neu ddolen gyswllt mewn chwiliad gyda rhestr wirio yn perthyn iddo. O glicio yn y blwch yma, bydd blwch i dicio a llun yn ymddangos. Mae’r dudalen dewisiadau i’w gweld ar y ddewislen ac yn dangos y lluniau hynny i gyd sydd â ’thich’ wrth eu hochr. I gael gwared â llun o’r dudalen Dewisiadau, cliciwch ar y rhestr wirio a chael gwared â’r tic. O glicio ar fotwm glanhau, bydd y llun yn diflannu oddi ar y dudalen Dewisiadau. Yn olaf, bydd dolen gyswllt 'Glanhau Dewisiadau i gyd' yn cael gwared â’r lluniau oddi ar y dudalen Dewisiadau.

Chwiliadau Blaenorol

Mae’r dudalen Chwiliadau Blaenorol yn cadw cofnod o’r chwiliadau i gyd rydych chi wedi’u gwneud yn ôl trefn amser. I gael gweld canlyniadau’r chwilio, cliciwch ar y ddolen gyswllt. Mae’r adnodd yma’n gweithio fesul sesiwn; bydd cau’r porwr yn cael gwared â’r Chwiliadau Blaenorol.

Canlyniadau Chwilio

Oriel

Bydd canlyniadau chwilio yn ymddangos ar ffurf oriel neu’n rhestr o ddolennau cyswllt. I gael gweld yr wybodaeth sydd ynghlwm â llun, cliciwch ar y ddolen gyswllt i gael mynd at y dudalen Cofnodi Eitem. Mae modd newid nifer y dolennau cyswllt sy’n ymddangos drwy nodi rhif yn y blwch 'Dangos xx o eitemau'. Gallwch chi fynd yn ôl i’r dudalen flaenorol neu symud ymlaen i’r dudalen nesaf drwy glicio ar fotymau Yn ôl a Nesaf neu drwy nodi rhif y dudalen rydych chi’n chwilio amdani hi a chlicio ar fysell dychwelyd. Mae’r dudalen yn cynnwys ’llwybr olion’, sy’n dangos y math o chwilio a ddefnyddiwyd i ddod o hyd i’r dudalen bresennol.

O glicio ar y rhestr wirio a rhoi tic coch yn y blwch dangos, byddwch chi’n ychwanegu llun arall at y Dudalen Dewisiadau. O glicio a chael gwared â’r tic coch, byddwch chi’ cael gwared â’r llun o’r dudalen Dewisiadau.

Tudalen Cofnodi Eitemau

Mae’r Dudalen Cofnodi Eitemau yn dangos llun bach o’r eitem a’r wybodaeth sy’n gysylltiedig. Bydd unrhyw eitemau neu bynciau sy’n gysylltiedig â’r eitem hefyd yn cael eu dangos. Er enghraifft, gall tudalen gyfeirio at y llyfr mae hi’n perthyn iddo a bod y llyfr yn perthyn i’r dudalen mae’r llun yn ei gynnwys.

Mae hi’n bosibl dewis y llun (a’i ychwanegu at y dudalen Dewisiadau) o’r dudalen Cofnodi Eitem, i gael gweld llun mwy eglur, ebostio’r dudalen yn ddolen gyswllt neu godi’r llun. Mae modd symud yn ôl ac ymlaen drwy’r tudalennau Cofnodi Eitem naill ai drwy ddefnyddio botymau Yn ôl a Nesaf neu drwy nodi rhif y dudalen rydych chi’n chwilio amdani yn y blwch rhif tudalen a phwyso botwm dychwelyd (return). Yn ogystal â hynny, mae’r dudalen Cofnodi Eitem yn cynnwys "llwybr olion" sy’n dangos y math o chwilio a ddefnyddiwyd i greu’r oriel sy’n cynnwys y llun, ac sy’n rhoi cyfle ichi i gyfeirio’n ôl at yr oriel sy’n cynnwys yr eitem.